Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 13 Mawrth 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
 


197(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-2024

(30 munud)

NDM8493 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad Pwyllgor y Llywydd

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I ofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru gynnal adolygiadau annibynnol i'w diwylliant a'u gwerthoedd?

I ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng nghanolbarth a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i wneud i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Adfywio Canol Trefi

(60 munud)

NDM8516 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, Adfywio Canol Trefi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2024.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllideb llywodraeth y DU

(60 munud)

NDM8518 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf tymor hir, a fydd yn cynnwys:

a) toriad dwy geiniog i gyfraniadau yswiriant gwladol, gan arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd i weithwyr Cymru;

b) £168 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett ychwanegol i Gymru;

c) prynu safle'r Wylfa am £160 miliwn;

d) £20 miliwn o gyllid ar gyfer y Rhyl fel rhan o'r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi;

e) £10 miliwn o gyllid i Venue Cymru yn Llandudno;

f) £5 miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd;

g) £5 miliwn o gyllid i lansio safle lansio bwyd-amaeth mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion;

h) £1.6 miliwn o gyllid tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod:

a) y Canghellor wedi cyhoeddi Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU;

b) twf cyflog real a Chynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen wedi cynyddu ar ei gyfradd isaf ers yr Ail Ryfel Byd o dan Lywodraeth hon y DU; ac

c) treth fel cyfran o CDG wedi cynyddu i'w lefel uchaf ers 1948 o dan Lywodraeth hon y DU.  

2. Yn gresynu:

a) mai'r tymor Senedd San Steffan hwn fydd y cyntaf yn hanes modern i oruchwylio cwymp mewn incwm gwario aelwydydd a safonau byw;

b) at y methiant i wella’r trothwy lwfans personol yn unol â chwyddiant, a fydd yn gadael aelwydydd incwm isel yn waeth eu byd ac yn ymwreiddio anghydraddoldebau incwm;

c) y bydd gwariant o ddydd i ddydd ar gyfer adrannau anwarchodedig Llywodraeth y DU yn gostwng 13 y cant dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru mewn meysydd fel cyfiawnder;

d) y bydd Canary Wharf yn derbyn £240 miliwn mewn Cronfeydd Ffyniant Bro, tra bod Llywodraeth Cymru am dderbyn dim ond £170 miliwn; ac

e) nad yw Plaid Geidwadol y DU na Phlaid Lafur y DU wedi ymrwymo i fargen ariannu deg i Gymru, nac i roi ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru.

3. Yn credu bod:

a) potensial Cymru yn cael ei rwystro gan ddiffyg buddsoddiad priodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n seilwaith adfeiliedig; a   

b) gyllideb Llywodraeth y DU 2024 yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â blaenoriaethau ac anghenion pobl Cymru.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024:

a) nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am yr hyn sydd eisoes yn ei chynlluniau gwario;

b) mae’n golygu bod setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

c) nid yw’n darparu unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod ei chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;

d) mae’n anwybyddu gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270 miliwn na fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol; ac

e) nid yw’n darparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf.

2. Yn gresynu hefyd:

a) bod y cynnydd mewn treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn ei phenderfyniad blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i gilydd, a dwywaith yn uwch erbyn 2028-29;

b) nad yw cyfansymiau gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb unrhyw gynllun credadwy i gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i hamlinellu;

c) bod disgwyl i safonau byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o dwf wedi’i golli, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y cynharaf, fel y’i mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a

d) bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd yma.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Nawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

(30 munud)

NDM8519 Vikki Howells (Cwm Cynon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Nawfed adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Mawrth 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri.

3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 42 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 15 Mai 2024.

4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8515 Hefin David (Caerffili)

Y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: yr heriau i athrawon a dysgwyr

</AI11>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>